Cartref / Home

Newyddion / News

Ionawr 2007 / January 2007

Cynhaliwyd cystadleuaeth yn yr ysgol i gynllunio baner i’w roi ar ffens yr ysgol i annog rhieni rhag barcio y tu allan i’r ysgol yn agos i’r groesfan.  Cynllun Elena Powell enillodd ac mae ei baner deniadol i’w weld y tu allan i’r ysgol.  Gobeithio bydd rhieni yn cymryd sylw ohono a pheidio â pharcio mor agos i ble mae’r ddynes lolipop yn croesi’r plant er mwyn iddi hi allu gweld os oes ceir yn dod ar hyd y stryd cyn camu i ganol y ffordd.

A competition was launched to design a banner encouraging parents not to park outside the school close to the crossing point. Elena Powell was the winner and her well designed banner can be seen hanging in front of the school. We hope that all parents will take note and not park too close to the crossing and making it safer for all.

Llongyfarchiadau i Molly, Ffion, Bryony a Shannon D o flwyddyn 5 a 6 ac Owen, Caitlin, Elizabeth a Lucy o flwyddyn 3 a 4 sydd wedi llwyddo i gyrraedd ail rownd y Cwis Llyfrau. Bydd yr ail rownd ym mis Mis Mawrth ac y mae pawb yn brysur yn paratoi.

Congratulations to Molly, Ffion, Bryony and Shannon D from year 5 and 6 and Owen, Caitlin, Elizabeth and Lucy from year 3 and 4 who have reached the second round of the Book Quiz. The second round takes place in March and all concerned already busy with their preparation.

Rydym yn datblygu’n foddhaol iawn fel ysgol Eco yn barod.  Erbyn hyn, mae’r ysgol wedi derbyn tystysgrif arian am ein hymwybyddiaeth a’n ymroddiad i wella ein amgylchedd.  Y peth mwyaf diweddar i gyrraedd yr ysgol ydy biniau ailgylchu papur.  Mae un ymhob dosbarth ac maent yn cael eu llenwi’n gyflym.  Da iawn bawb am eich ymdrech.

The school is developing its eco credentials. We have already received a silver award for our knowledge and desire to improve our surroundings. The most recent development being the arrival of paper recycling bins to each classroom that are being filled very quickly. Well done everybody for your effort.

Cawsom Nadolig llwyddiannus iawn hefyd.  Yn ôl yr adborth, mwynhaodd pawb ein gwasanaeth Nadolig, ‘Santa ar Streic’ ac fe weithiodd y plant i gyd yn galed iawn ar ei gyfer.  Yn ystod wythnos olaf y tymor, fe aeth rhai plant yr Adran Iau i ganu mewn archfarchnadoedd Castell Nedd.  Roedd eu hymdrechion wedi codi dros £300 a gafodd ei rannu rhwng elusennau Cancr Macmillan a Phlant Chernobyl.  Hefyd fe aeth plant yr Adran Iau i ganu carolau yng nghartrefi’r henoed yn y pentref. 

We also had a very successful Christmas as well. Everybody enjoyed our Christmas Service ‘Santa on Strike’. All the pupils worked very hard towards it. During the last week of term, a group of pupils from the Juniors visited supermarkets in Neath to sing. Their efforts raised over £300 that was split between Macmillan Nurses and the Children of Chernobyl . Junior children also visited the village’s residential homes to sing carols.  

Fel rhan o’n polisi iechyd a diogelwch, fe gafodd staff cynorthwyol yr ysgol eu hyfforddi ar gyfer tystysgrif cymorth cyntaf.  Bu pob un yn llwyddiannus felly llongyfarchiadau i Bethan Williams, Marie Evans, Angela Walker, Rhian Thomas, Rhian Evans, Luan Morgan a Tracey O’Reilly.

As part of our Health and Safety Policy, the school support staff have received training towards their First Aid Certificate. All were successful, so congratulations to Bethan Williams, Marie Evans, Angela Walker, Rhian Thomas, Rhian Evans, Luan Morgan a Tracey O’Reilly.

Llongyfarchiadau i Mr Ceri Emanuel ar ei benodiad yn Brifathro yn Ysgol Gynradd Gymraeg Ynysgedwyn. Bydd Mr Emanuel yn dechrau ar ei swydd ym mis Ebrill 2007. Mae pawb sy’n gysylltiedig ag Ysgol Gymraeg Cwm Nedd yn ddyledus iawn iddo am ei waith yn yr ysgol ac yn ei longyfarch yn wresog ar ei swydd newydd. Pob lwc iddo am y dyfodol.

Congratulations to Mr Ceri Emanuel on his appointment as Head teacher at Ysgol Gynradd Gymraeg Ynysgedwyn. Mr Emanuel will take up his appointment April 2007. Everyone connected with Ysgol Gymraeg Cwmnedd would like to thank him for his work at the school, congratulate him on his appointment and offer him best wishes for the future.

Llongyfarchiadau, hefyd, i Mrs Julia Griffiths sydd wedi ei phenodi yn Ddirprwy yn lle Mr Emanuel. Fe fydd hi yn dechrau ei gwaith yn yr ysgol ar ôl y Pasg.

Congratulations also, to Mrs Julia Griffiths who has been appointed as Mr Emanuel’s replacement as Deputy Head teacher. She will be beginning her work at the school at the start of the Summer Term.

Gwanwyn 2006 / Spring 2006

Marc Safon / Quality Award

Yn dilyn arolygiad o waith y plant a sawl agwedd arall o fywyd yr ysgol, mae’r ysgol  wedi llwyddo i dderbyn y Marc Safon eto eleni. Derbyniwyd llythyr o longyfarchiadau oddi wrth Mr Peter Hain.

Following an inspection of the children’s work and many other aspects of school life, the school has succeeded to gain the Quality Award this year again. A letter of congratulations was received from Mr Peter Hain.  

Llongyfarchiadau / Congratulations

Cynhaliwyd gwasanaeth arbennig iawn yn yr ysgol yn ddiweddar pan gyhoeddwyd bod Levi, merch fach yn y Babanod, wedi ennill cystadleuaeth i gynllunio cerdyn Nadolig. Gwerthwyd y cardiau hyn ledled y byd er mwyn codi arian i Sialens Cancr, achos da iawn sy’n defnyddio’r arian i brynu offer drud tu hwnt i ysbytai lleol. Roedd teulu Levi’n bresennol yn y gwasanaeth hefyd i weld Mr Donald Davies yn cyflwyno siec o £25 a phecyn o gardiau iddi. Llongyfarchiadau mawr, Levi!

Congratulations to Levi, an Infant pupil, who won a competition to design a Christmas card. Those cards were sold world wide over the Christmas period to raise money for Cancer Challenge, a very good cause which buys expensive equipment for local hospitals. Mr Donald Davies presented Levi with £25 and a pack of cards in a special assembly in school. Well done, Levi!  

Cwis Llyfrau / Book Quiz

Llongyfarchiadau hefyd i Ffion Haf a Bryony, Emily ac Alex a gymrodd rhan yn y Cwis Llyfrau. Oherwydd eu gwaith caled, maent wedi llwyddo i fyny trwyddo i rownd derfynol Nedd Port Talbot. Pob lwc!

The school was very proud of Ffion Haf and Bryony, Emily and Alex, who gained the highest marks for their knowledge of two books which they studied for the Welsh Book Quiz which was held at Pontardawe Arts Centre. They are now through to the next round which will be held at the end of this term. Keep reading, children!  

Canu Carolau / Carol Singing

Cyn y Nadolig, bu aelodau’r côr yn canu carolau yn archfarchnad Tesco, Mynachlog Nedd. Roedd hi’n amlwg y gwerthfawrogwyd eu canu’n fawr iawn gan y llwyddasant i godi £549 mewn dan dwy awr! Rhoddwyd yr arian i ddwy elusen sef Sialens Cancr ac Ymchwil yr Arennau Cymru. Bu’r côr yn canu carolau hefyd yn archfarchnad Morrison’s Castell-nedd a chasglwyd £338 i elusen MIND. Da iawn chi, blant! 

Before Christmas, members of the school choir sang carols at the Tesco store at Neath Abbey. It was obvious that their singing was much appreciated as they managed to raise £540 in under two hours! The money was donated to two charities, namely Cancer Challenge and Kidney Research Wales . The choir also sang carols at Morrison’s supermarket, Neath, and £338 was collected for MIND.

 Ymweliad â Chastell Henllys / Visit to Castell Henllys

Er gwaethaf y gwynt a’r glaw, cafodd Blynyddoedd 3 a 4 amser wrth eu bodd yng Nghastell Henllys lle aethant ar daith yn ôl i Oes y Celtiaid am y diwrnod. Peintiwyd eu hwynebau fel roedd y Celtiaid yn arfer gwneud mewn brwydr a chafodd y disgyblion gyfle i brofi gweithgareddau o bob math fel pobi bara a gwehyddu gwiail i wneud cartref. Roedd yn ddiwrnod bythgofiadwy a oedd yn sicrhau bod y plant yn cael profiad uniongyrchol am eu gorffennol.

Despite the wind and the rain, Year 3 and 4 pupils enjoyed a great day at Castell Henllys which allowed them to travel back in time to the age of the Celts for the day. Their faces were painted as Celtic warriors and the pupils were given an opportunity to try all sorts of activities such as baking bread and weaving braches to build a home. It was a memorable day which ensured that the children had ‘hands on’ experience about their past.